Croeso cynnes i wefan Ysgol Penllwyn.
Ei nod yw rhoi blas i chi ar fywyd dysgwr yn Ysgol Penllwyn, a darparu gwybodaeth i rieni a darpar rieni o’r profiadau cyfoethog caiff eich plentyn fel aelod o’n cymuned ysgol.
Wir obeithiwn i chi gael blas ar natur gofalgar ac ethos deuluol yr ysgol wledig hon. Porwch hefyd am wybodaeth ynghylch cynnwys ein cwricwlwm, gwybodaeth angenrheidiol i rieni, a chrynodeb o brofiadau dysgu disgyblion. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os ydych eisiau trefnu ymweld a’r ysgol.
Yn gywir
Catryn Lawrence
Pennaeth