Skip to content ↓

Welsh

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, o Fedi 2022 bydd Ysgol Penllwyn yn:

 

Categori 3: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

  • Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol.
  • Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen.
  • Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.
  • Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.

Mae rhieni di-Gymraeg yn aml yn mynegi eu bod yn poeni na allant helpu eu plentyn gyda'u dysgu os yw'n Gymraeg. Nid oes angen poeni. Os ydych chi neu eich plentyn yn cael trafferth deall ewch at yr athro dosbarth a byddant yn fwy na pharod i helpu.

Wrth gychwyn yn yr ysgol rhoddir llyfryn geiriau allweddol i rieni di-Gymraeg i'w cynorthwyo, a gellir dod o hyd i gopi digidol isod. Gallai fod yn gyfle gwych i ddysgu’r iaith ochr yn ochr â’ch plentyn.

Llyfryn Cymraeg