Skip to content ↓

Transition

Sut y cefnogir disgyblion wrth ddechrau yn yr ysgol?

 

Cylch Penllwyn

Mae gyda ni berthynas agos iawn gyda Cylch Meithrin Penllwyn sy’n darparu addysg a gofal cyn oed ysgol. Maent yn rhannu safle gyda ni, ac yn gwneud defnydd o gaban ar dir yr ysgol.

Mae plant sy’n mynychu’r cylch yn cael y profiad o staff yr ysgol yn ymweld a nhw yn gyson, gweithgareddau ar y cyd megis eisteddfod ysgol, mabolgampau ac ambell ymweliad. Mae symud felly i fyny i’r ysgol yn gam naturiol i’r rheiny sy’n mynychu’r cylch.

Ar drosglwyddo i’r ysgol byddwn yn cynnal sgyrsiau cynnydd gyda staff y cylch er mwyn gael syniad o anghenion pletyn. Byddwn hefyd yn cynllunio cyfarfodydd trosglwyddo ar gyfer disgyblino ag anableddau neu anghenion Dysgu ychwnaegol.

 
Diwrnodau pontio

Yn ystod y tymor mae plentyn yn troi’n 4 bydd cyfle i ddysgwyr ddod am deuddydd cyfan i brofi diwrnod ysgol cyn iddynt ddechrau’r ysgol y tymor canlynol. Trefnir noson agored hefyd i rieni ddod i gyfarfod a’r athrawes, ac holi unrhyw gwetiynnau sydd ganddynt.

 

Sut y cefnogir disgyblion i drosglwyddoi’r uwchradd?

 

Ar gyrraedd blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol gynradd cyllunir raglen mae raglan gain ysgolion y clwstwr i gefnogi isgyblion worth drosglwyddo i nail Ysgol Penweddig neu Penglais.

Gyda ein bod ni’n gweithio yn agos rhwng ysgol Penrhyn-coch ac ysgol Penllwyn, mae disgyblion yn barod yn adnabod ambell wyneb cyfarwydd wrth ymgymryd a’r cam nesaf yn eu haddysg. Bydd angen i chi fel teulu wneud eich dewis terfynol o ba ysgol yr hoffech i’ch plentyn fynychu erbyn tua mis Hydref . Os hoffech unrhyw fewnbwn o ran eich penderfyniad mae croeso i chi ddod i drafod gyda’r athrawes dosbarth neu gyda’r pennaeth. Edrychwch allan hefyd am hysbysebion am nosweithiau agored i Benweddig a Phenglais yn ystod tymor yr Hydref.

Ym mis Tachwedd bydd cyfle i chi ymgeisio am gludiant ysgol i’r uwchradd os fydd eich plentyn yn defnyddio bws ysgol.

Cyniga Ysgol Penweddig yn benodol y profiadau gloywi iaith i ddisgyblion a fyddai’n elwa o hwb gyda’r Gymraeg. Trefnir rhain yn nhymor yr Haf.

Mae disgyblion yn ewa o:

  • ddiwrnodau agored, fel arfer yn nhymor yr Haf, lle mae disgyblion yn dal y bws i’r uwchradd ac yn gwario’r diwrnod yno, yn yr ysgol y byddant yn cychwyn ynddi yn y mis Medi.  
  • ymweliad gan benaethiaid blwyddyn 7 i’r disgyblion yn eu ysgol gynradd a chyfle i holi cwestiynau.
  • sgyrsiau trosglwyddo rhwng staff cynradd ac uwchradd er mwyn sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael ei diwallu.
  • Mae posibilrwydd o drefnu gweithgareddau ychwanegol ar gyfer disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’r uwchradd.
Gwasanaeth Gerdd

Yn nhymor yr Haf bydd gyda disgyblion i gyd y cyfle i gymryd rhan yn Côr Ceredigion a rhai yng Ngherddorfa Ceredigion trwy wahoddiad. Bydd hyn y cynnwys sesiynau ymarfer a pherfformiad terfynol fel rhan o ‘Proms Cynradd’ yng nghanolfan y celfyddydau ym mis Gorffennaf. Bydd holl ddisgyblion Blwyddyn 6 Ceredigion yn dod at ei gilydd ar gyfer yr achlysur, felly cyfle da i ddisgyblion gyfarfod a disgyblion o ysgolion eraill y byddant yn gyd-ddisgyblion yn yr uwchradd.  

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y cam nesaf yn addysg eich plentyn, croeso i chi gysylltu.

 

Ffarwelio

Ar ddiwedd blwyddyn 6 mae’r ysgol yn trefnu gwasanaeth ffarwel i ddisgyblion Blwyddyn 6, a bydd gwahoddiad i chi ymuno gyda ni yn agosach i’r amser. Ambell flwyddyn mae rhieni yn trefnu gweithgareddau tu allan i oriau’r ysgol i ddisgyblion blwyddyn 6 megis pryd bwyd, bowlio deg, crysau T arbennig gydag enwau disgyblion arnynt ayyb. Mae hyn fel arfer yn rhywbeth mae rhieni yn trefnu ymysg ei gilydd.