Skip to content ↓

Sports

Yn unol â’n hamcan i feithrin unigolion Iach, hyderus darparwn gyfleoedd cyson i ddisgyblion wneud gweithgarwch corfforol yn ystod wythnos ysgol. Ein nod yn y lle cyntaf yw datblygu agwedd gadarnhaol at ymarfer corff gan sicrhau cyfle i bob plentyn fagu diddordeb a chymryd rhan. Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda dealltwriaeth o fuddiannau ymarfer corff in lles corfforol ac emosiynol. Anelwn at ddatblygu gallu disgyblion i fireinio eu sgiliau o fewn campau penodol, ac i ddyfalbarhau wrth anelu at gyrraedd y brig wrth gystadlu.

Trwy raglen ffit mewn 5, amser chwarae a dysgu awyr agored, rhoddir cyfle i ddisgyblion ymarfer corff yn ddyddiol. Ceir o leiaf awr a hanner dynodedig yr wythnos ar gyfer bob dosbarth i ymgymryd ag ymarfer corff fel dosbarth cyfan. Mae’r sesiynau yma yn cynnwys gwersi nofio bob pythefnos i bob disgybl yn yr ysgol. 

Manteisia’r ysgol ar y cyfleoedd mae’r Urdd a’r clwstwr o ysgolion lleol yn cynnig inni gystadlu. Ein tuedd yw dewis camp sydd o ddiddordeb i ddisgyblion i gystadlu ynddi e.e. pêl rhwyd, pêl droed, hoci, rygbi, gala nofio, trawsgwlad, athletau, gymnasteg. Pan gawn ganiatâd, manteisiwn ar ein partneriaeth rhwng y ddwy ysgol, gan sicrhau bod modd creu tîm ar draws y ddwy ysgol o dan yr enw ‘Llwyncoch’ er mwyn cystadlu. Mae ein rhaglen o weithgareddau allgyrsiol fel arfer yn cyd-fynd gyda’r gystadleuaeth yr ydym yn ymarfer ar ei chyfer. Rhennir rhaglen o weithgareddau allgyrsiol gyda rhieni ar ddechrau bob tymor.

Cynhelir Mabolgampau’r ysgol yn flynyddol yn nhymor yr Haf ar y cyd rhwng y ddwy ysgol.

Manteisia’r ysgol ar deithiau preswyl gan gynnig cyfloed i ddisgyblion ymgymryd â gweithgareddau antur. 

Cafwyd y Llysgenhadon Efydd hyfforddiant dan arweiniad swyddogion ‘Ceredigion Actif’ er mwyn trefnu rhaglen o weithgareddau i ddiddori disgyblion yn ystod amser cinio trwy gydol y flwyddyn.