Skip to content ↓

School Uniform

Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol o grys polo glas, crys chwys gwyrdd, trowsus du ac esgidiau du.

Mae gwisg ysgol ag arwyddlun yr ysgol arni ar gael oddi wrth:

Alison Jones Schoolwear | Top Quality Branded Uniform

Schools - Ffigar

Fodd bynnag, mae gwisg heb ei frandio gan fanwerthwyr eraill hefyd yn gwbl dderbyniol.

Mae detholiad o wisgoedd ail law ar gael yn yr ysgol. Holwch a oes angen unrhyw help arnoch gyda gwisg ysgol.

Y peth pwysig yw bod eich plentyn yn gyfforddus, wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd, ac yn barod i ddysgu.

Os oes gan eich plentyn hawl i brydau ysgol am ddim, efallai y bydd ganddo hawl i gymorth ariannol gyda chost gwisg ysgol. Cyfeiriwch at yr adran ffurflenni ar wefan y ffederasiwn am ragor o wybodaeth.

LABEWCH BOB EITEM O DDILLAD EICH PLENTYN GYDA'I ENW.

Ar gyfer gweithgareddau corfforol anogir disgyblion i wisgo crys-t, jogyrs a threinyrs.

Sicrhewch fod disgyblion yn dod a chot law yn ddyddiol.