Skip to content ↓

School Trips

Paratoi ar gyfer trip ysgol

 

  • Rhowch ganiatâd i'r daith ar parentmail.

Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae rhieni’n caniatáu i’w plentyn fynychu ymweliadau ysgol o fewn y gymdogaeth am y flwyddyn ysgol gyfan , megis teithiau cerdded yn y pentref, bws i nofio, neu fws i Ganolfan gelfyddydau. Ar gyfer teithiau ychydig ymhellach i ffwrdd bydd angen i chi roi caniatâd ar parentmail.

 

  • Cyfrannu at y daith ysgol ar parentmail.

Mae eich rhoddion tuag at ymweliadau ysgol yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at gost cludiant a ffioedd mynediad. Nid oes disgwyl i ddisgyblion o deuluoedd incwm isel wneud cyfraniad. Mae gan bob disgybl hawl i fynychu. Rydym yn ddiolchgar i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am y cyfraniadau a wnânt i ariannu ymweliadau.

 

  • Darparwch becyn bwyd iach

Os oes angen, gall cegin yr ysgol baratoi pecyn bwyd ar gyfer eich plentyn. Lawr lwythwch ac argraffwch y ffurflen archebu, a'i hanfon i'r ysgol o leiaf bythefnos cyn dyddiad y trip. Os oes angen copi papur arnoch, gofynnwch i athrawon dosbarth dros dojo dosbarth. Gweler y ffurflen ar ddiwedd y dudalen hon. Darparwch fagiau cŵl i gario pecynnau bwyd. Mae gan yr ysgol gyflenwad o fagiau cŵl at ddefnydd disgyblion o deuluoedd incwm isel.

Mae syniadau ar gyfer pecynnau bwyd iach ar gael. Darparwch botel ddŵr os gwelwch yn dda.

FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn - Meals and Snacks (devwebsite.co.uk)

 

  • Darparwch ddillad priodol

Os yn bosibl gofynnwn i ddisgyblion wisgo crys polo'r ysgol a siwmper/lliwiau ysgol ar bob ymweliad ysgol fel eu bod yn hawdd i'w hadnabod. Dylid gwisgo trywsus ac esgidiau ymarferol a chyfforddus ar gyfer yr achlysur. Mae dillad sbâr yn ddefnyddiol i ddisgyblion a allai fod yn dueddol o gael damweiniau, neu ymweliadau lle disgwylir chwarae dŵr/mwdlyd.

Tywydd gwlyb  - welingtons/esgidiau cerdded, cot law, trowsus sy'n dal dŵr,

Tywydd oer - haenau, het, sgarff, menig,

Tywydd cynnes - het haul, eli haul,

Mae bag sy'n ddigon mawr i gadw'r holl eitemau gofynnol yn ddefnyddiol.

 

  • Sylwch ar y trefniadau

Bydd trefniadau yn cael eu cyfleu i chi trwy e-bost ar parentmail. Byddant hefyd yn cael eu harddangos ar galendr yr ysgol. Gall nodyn atgoffa eich cyrraedd trwy class dojo. Nodwch amseroedd a lleoliad.

 

  • Darparu arian poced

Bydd athrawon dosbarth yn rhoi gwybod i chi os yw'n briodol i'ch plentyn ddod ag arian poced a faint. Anfonwch waled/pwrs wedi'i labelu ag enw eich plentyn arno.

 

  • Rhowch UNRHYW feddyginiaeth i'r athro dosbarth

Peidiwch â rhoi meddyginiaeth ym mag eich plentyn. Rhowch BOB meddyginiaeth i'r athro dosbarth ynghyd â ffurflen feddygol yn nodi'r dos.

FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn - Medication (devwebsite.co.uk)

 

  • Ceisiwch osgoi dod ag eiddo personol diangen.

Peidiwch â gadael i'ch plentyn ddod â ffôn symudol neu dabled yn ei fag. Peidiwch â dod â theganau o gartref.