Skip to content ↓

RSE

Yn Ysgol Penllwyn credwn yn gryf y dylai ein disgyblion dderbyn y wybodaeth, y profiadau, y sgiliau a’r gefnogaeth sy’n eu galluogi i fyw bywydau hapus, iach a llwyddiannus. Mae meithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol yn allweddol i gyflawni hyn. Wrth wreiddio addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) yn ein cwricwlwm, bydd disgyblion yn dysgu sut i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel a gallu adnabod sefyllfaoedd niweidiol, yn enwedig mewn cymdeithas sy’n dechnolegol ddatblygedig. Yn ganolog i'r dysgu hwn mae gwybod eu hawliau a gallu nodi pryd a sut i gael cymorth. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei haddysgu drwy'r cwricwlwm cyfan a bydd yn gynhwysol ac yn briodol o ran datblygiad a gaiff ei ddylanwadu gan yr hyn y mae ein disgyblion yn ei wybod, yr hyn y maent yn meddwl y maent yn ei wybod a'r hyn y mae angen iddynt ei wybod. Mae RSE yn ofyniad gorfodol yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr 3-16. Nid yw bellach yn bosibl tynnu'n ôl o RSE.

Gweler canllaw pellach ar drefniant a chynnwys y cwricwlwm yma Repository - Hwb (gov.wales)