Skip to content ↓

Our School

Ysgol fach y wlad ydy ysgol Penllwyn. Mae ei natur ofalgar a chyfeillgar yn eich cofleidio chi wrth gamu dros drothwy’r ysgol, lle cewch eich croesawi gyda gwen a chyfarchiad gan ein disgyblion.

Niferoedd 

Gwasanaethir 40 disgybl gan dîm o staff dedwydd ac ymroddgar sydd yn gweithio ar draws 2 ddosbarth. Mae niferoedd llai yn golygu y daw staff i adnabod dysgwyr yn arbennig o dda, gan ddiwallu a chefnogi eu hanghenion llesol ac addysgiadol yn llwyddiannus. Golyga hefyd y gall ddisgyblion lu o brofiadau trwy gydol eu hamser yn yr ysgol:

  • Cyfleoedd cyson i ysgwyddo cyfrifoldeb e.e. ar gynghorau ysgol,
  • Gwersi nofio i bob disgybl o 4 i 11 oed.
  • Dosbarthiadau cymysg o ran oedran yn golygu bod disgyblion yn dysgu o brofiadau a chymdeithasu gyda disgyblion hyn.
  • Cyfleoedd cyson i gynrychioli’r ysgol mewn cystadlaethau megis yr Urdd.

Trwy ein partneriaeth gydag Ysgol Penrhyn-coch, ffurfiwn dimoedd chwaraeon ar y cyd er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael profi ystod eang o gampau yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Ynghyd a hyn, darpara ein partneriaeth ffrindiau ac wynebau cyfarwydd wrth i ddisgyblion drosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Safle’r Ysgol

Cynhwysa ein safle eang adeilad yr ysgol ei hun, caban Cylch Meithrin Penllwyn, ardal dysgu allanol hael i’r plant ieuengaf, iard chwarae ar flaen yr ysgol, parc,  polytunnel, a chae pêl droed a adnabyddir yn hoffus gan ddisgyblion fel ‘cae top’. Ar ddiwrnod braf o Haf mae golygfeydd godidog o’r ardal i’w gweld o gae top – ac ar y diwrnodau yma, does dim byd mae ein disgyblion yn mwynhau mwy na rolio lawr y banc o gae top! Cyfoethogir ein cwricwlwm gan ein hardal allanol, sydd yn cynnig profiadau garddio, astudiaethau o fyd natur, sgiliau goroesi a digonedd o le i archwilio amrywiaeth o gampau.

Mae cryn dipyn o fuddsoddiad wedi bod mewn adeilad yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys ffenestri, system wresogi, adnewyddu ystafell ddosbarth a chreu llecyn allanol i bob dosbarth. Mae'r rhain wedi trawsnewid yr ysgol, gan ddarparu awyrgylch dysgu modern a deniadol gall disgyblion a staff ymfalchïo ynddi.