Our Community
Lleolir Ysgol Penllwyn yng nghanol ystâd Penllwyn, ym mhentref Capel Bangor, yng ngogledd Ceredigion. Mae’n gorwedd ar lan ogleddol yr afon Rheidol, rhyw 5 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth. Rhed y ffordd A44 trwy’r pentref. Mae gan y pentref orsaf reilffordd ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, dros y bont ar Afon Rheidol. Gwasanaetha’r ysgol bentrefi cyfagos Cwm Rheidol, Aberffrwd a Goginan.
Caiff yr ardal ei henw o Gaer Rufeinig a leolwyd ar y bryn uwchben yr ysgol. Mae olion o drigolion yn yr ardal yn deillio o’r Oes Efydd. Wedi cyfnod o dywydd braf, gwelir olion tomen gladdu wedi llosgi’n glir ar gynfas caeau Goginan. Bu ein disgyblion yn ddigon ffodus i drafod hyn ar raglen y BBC ‘The One Show’ rhai blynyddoedd yn ôl.
Wrth droed y fynedfa i’r ysgol lleolir Capel Penllwyn. Dyma oedd lleoliad yr hen ysgoldy lle bu plant yr ardal yn derbyn ei haddysg cyn i adeilad presennol yr ysgol cael ei hadeiladu yn y 60au. Ar dir y Capel ceir cerflun o’r enwog Lewis Edwards, gweinidog, athronydd, athro a phennaeth cyntaf ar Goleg y Bala.
Amaeth yw prif ddiwydiant yr ardal, gydag eraill yn teithio i weithio yn nhref Aberystwyth. Mae natur wledig yr ardal yn cael dylanwad amlwg ar ddiddordebau disgyblion.
Er bychan ydy’r pentref, mae ganddi Dafarn, 2 garej, neuadd, Ysgol Merlota a’r hyfryd Eglwys Dewi Sant, yn ogystal ag arlwy llety gwyliau amrywiol. Cynhelir Sioe Amaethyddol yn flynyddol yn y pentref, a chynhelir Sioe Aberystwyth a Gŵyl y Big Tribute ar gaeau cyfagos i’r pentref.