Skip to content ↓

Ethos and Values

Plant hapus, sydd yn falch dod i’r ysgol yw trothwy ein gweledigaeth yn Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch. Credwn y gryf bod dysgwyr hapus yn ddysgwyr llwyddiannus. Tra bod disgyblion yn ein gofal, ein nod, yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:

dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu yn eu bywydau 

cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae ran lawn mewn bywyd a gwaith

Cymry egwyddorol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
 

 

unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 

Mae’r rhain yn seiliedig ar 4 Diben ‘Cwricwlwm i Gymru’ a ddaeth yn weithredol yn 2022. Penderfynwyd fel corff llywodraethol i fabwysiadu'r rhain fel prif werthoedd yr ysgol fel eu bônt yn ddyhead, ac yn nod i’n holl ymarfer, ac yn sail i ddysgu ac addysgu.

Ein gobaith yw bod pob plentyn yn ein gadael ni yn deall ei gwerth, gyda’r hyder i fentro.

Gyda’n gilydd gallwn lwyddo

Fel corff llywodraethol ac fel un corff o staff, anelwn at sicrhau bod ein partneriaeth o fudd i’n  dysgwyr

Cynefin

Mae ein cynefin yn arwain trywydd ein dysgu. Credwn yn gryf mewn magu gwreiddiau ein disgyblion yn ei hardal a’u cymuned. Cyfranna hyn at ymdeimlad ein disgyblion o’i hunaniaeth, gan fagu ynddynt barch tuag at y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhyngddynt ag eraill. Manteisiwn ar bob cyfle sydd yn codi i fynd ar grwydr yn ein hardal leol, ac i gwrdd a’i thrigolion hi, gan ddefnyddio rhain fel sbardun i’n dysgu. e.e. ymweliad a choedwig Gogerddan a thaith gerdded Ysbryd Y mwyngloddwyr i Gwmsymlog. Rydym yn tra ddiolchgar i’n partneriaid o fewn y gymuned am gyfoethogi profiadau dysgu ein dysgwyr.