Skip to content ↓

Religion

Nid yw Ysgol Penllwyn yn gysylltiedig â chrefydd/enwad crefyddol penodol ac mae addoli ar y cyd yn yr ysgol yn gyffredinol o natur Gristnogol. Mae gwasanaethau ysgol yn rhan bwysig o ethos yr ysgol, yn cynnig cyfle i ddatblygu ymdeimlad o gymuned. Mae'r Cynhaeaf, y Nadolig, Dydd Mawrth Ynyd a'r Pasg yn achlysuron sy'n cael eu dathlu yn yr ysgol. Mae gan rieni'r hawl i dynnu eu plentyn allan o addoli ar y cyd naill ai yn ei gyfanrwydd, neu ran ohono. Gall rieni wneud hymn trwy gysylltu gydag athro/athrawes ei plentyn. Trefnir gweithgareddau amgen ar gyfer disgyblion yn yr achosion yma. 

 

Mae pwyslais addysg grefyddol yn gysylltiedig â phrofiadau’r plant eu hunain yn eu bywydau bob dydd, gan bwysleisio agweddau anhunanol a gofalgar crefydd. Mae dysgu am wahanol grefyddau yn cynnig cyfle i ddathlu amrywiaeth, i archwilio dylanwadau cymdeithasol ac i fyfyrio ar rai o gwestiynau mawr bywyd.