Teaching and Assessment
Pwrpas asesu yw cefnogi cynnydd pob dysgwr. Asesu yw’r broses o ddarganfod ble mae’r dysgwyr arni, adnabod eu camau nesaf, cyn cynllunio a gweithredu. Dewisa staff strategaethau a dulliau addysgu yn effeithiol er mwyn llywio cynnydd disgyblion. Mae hyn yn cynnwys adnabod a oes Anghenion Dysgu Ychwanegol gan blentyn sydd yn gofyn am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol yn unol a’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
12 egwyddor addysgeg
Rydym yn benderfynol y dylai disgyblion arwain agweddau ar eu dysgu eu hunain, yn gwneud dewisiadau gwybodus yn gyson ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut.
Yn ystod eu hamser yn yr ysgol, cefnogwn ddisgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hun gan ddatblygu eu gallu i adnabod eu camau nesaf yn annibynnol. Rho hyn berchnogaeth iddynt ar eu hysgol a phopeth sy’n digwydd ynddi. Bydd athrawon yn:
- cynnal ffocws cyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
- annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
- cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol
- annog cydweithio
- herio pob un o’r disgyblion trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrech gynaledig wrth fodloni disgwyliadau sy’n uchel ond y mae modd iddynt eu cyflawni
- defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheiny sy’n hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a beirniadol
- gosod tasgau ac yn dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
- creu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu
- defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
- atgyfnerthu cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn rheolaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion eu hymarfer
Trefniadau asesu a sicrhau cynnydd pob disgybl
Bydd asesu yn digwydd fel parhaus o ddysgu ac addysgu o dydd i ddydd. Fel rhan o’r Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y CiG) 2022, byddwn yn sicrhau ein bod yn:
- Gwneud trefniadau ar gyfer asesiad parhaus o bob disgybl a phlentyn drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd;
- Gwneud trefniadau ar gyfer asesiadau dros amser e.e. wrth dderbyn disgyblion, a chynnal yr asesiadau hynny i bob plentyn/disgybl ar adegau penodol;
- Gweithio o fewn yr ysgol a chydag ysgolion eraill i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chynllunio ar gyfer pontio dysgwyr rhwng ysgolion;
- Darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr fel eu bod yn deall cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud.
Gweler ein trefniadau asesu a pholisi adborth.