Skip to content ↓

Ein Ysgol

Ysgol fach y wlad ydy ysgol Penllwyn. Mae ei natur ofalgar a chyfeillgar yn eich cofleidio chi wrth gamu dros drothwy’r ysgol, lle cewch eich croesawi gyda gwen a chyfarchiad gan ein disgyblion.

Niferoedd 

Mae 40 o ddisgyblion yn cael eu gwasanaethu gan dîm o staff hapus ac ymroddgar sy'n gweithio ar draws 2 ddosbarth. Mae niferoedd llai yn golygu bod staff yn dod i adnabod dysgwyr yn arbennig o dda, gan ddiwallu a chefnogi eu hanghenion lles ac addysgol yn llwyddiannus. Mae manteision pellach i fod yn llai o ddisgyblion:

 

  • Sylw unigol. Gyda nifer llai o ddisgyblion, gall athrawon a staff cymorth dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar anghenion, cryfderau ac arddulliau dysgu pob plentyn.
  • Ffocws cryf ar les sy'n meithrin gwydnwch disgyblion ac yn amddiffyn rhag problemau bwlio.
  • Cysylltiadau cymunedol cryf gyda'r ysgol yn gweithredu fel canolfan gymunedol.
  • Diogelwch a sicrwydd cynyddol oherwydd yr awyrgylch agos ac oedolion cyfarwyddyd.
  • Cyfleoedd rheolaidd drwy gydol eu hamser yn yr ysgol i gymryd cyfrifoldebau, e.e. ar gynghorau ysgol.
  • Gwersi nofio i bob disgybl rhwng 4 ac 11 oed.

Mae dosbarthiadau oedran cymysg yn golygu bod disgyblion yn dysgu o brofiadau ac yn cymdeithasu â disgyblion hŷn. Gall hyn feithrin mwy o empathi a rhoi cyfleoedd i blant hŷn weithredu fel mentoriaid a modelau rôl. Cyfleoedd rheolaidd i gynrychioli'r ysgol mewn cystadlaethau fel yr Urdd.

Mae disgyblion yn elwa o'n partneriaeth ag Ysgol Penrhyn-coch. Rydym yn ffurfio timau chwaraeon ar y cyd i sicrhau bod disgyblion yn cael profi ystod eang o chwaraeon tra byddant yn ddisgyblion yn yr ysgol. Yn ogystal â hyn, mae ein partneriaeth yn darparu ffrindiau ac wynebau cyfarwydd wrth i ddisgyblion drosglwyddo i'r ysgol uwchradd.

Safle’r Ysgol

Cynhwysa ein safle eang adeilad yr ysgol ei hun, caban Cylch Meithrin Penllwyn, ardal dysgu allanol hael i’r plant ieuengaf, iard chwarae ar flaen yr ysgol, parc,  polytunnel, a chae pêl droed a adnabyddir yn hoffus gan ddisgyblion fel ‘cae top’. Ar ddiwrnod braf o Haf mae golygfeydd godidog o’r ardal i’w gweld o gae top – ac ar y diwrnodau yma, does dim byd mae ein disgyblion yn mwynhau mwy na rolio lawr y banc o gae top! Cyfoethogir ein cwricwlwm gan ein hardal allanol, sydd yn cynnig profiadau garddio, astudiaethau o fyd natur, sgiliau goroesi a digonedd o le i archwilio amrywiaeth o gampau.

Mae cryn dipyn o fuddsoddiad wedi bod mewn adeilad yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys ffenestri, system wresogi, adnewyddu ystafell ddosbarth a chreu llecyn allanol i bob dosbarth. Mae'r rhain wedi trawsnewid yr ysgol, gan ddarparu awyrgylch dysgu modern a deniadol gall disgyblion a staff ymfalchïo ynddi.

Cadwch mewn Cysylltiad â Newyddion yr Ysgol

Rydym yn annog pob teulu i gadw i fyny gyda’r newyddion a’r gweithgareddau diweddaraf yn yr ysgol! Bob mis, rydym yn cyhoeddi erthygl yn Tincer, ein papur bro lleol wedi’i olygu gan wirfoddolwr a llywodraethwr hoffus ein hysgol, Ceris Gruffudd. Drwy brynu Tincer, gallwch ddarllen am ddigwyddiadau diweddar, llwyddiannau disgyblion, a chyfleoedd sydd ar y gorwel yn yr ysgol.

Yn ogystal, rydym yn rhannu diweddariadau, lluniau a chyhoeddiadau pwysig yn rheolaidd ar dudalennau swyddogol yr ysgol ar Facebook ac Instagram. Mae ein cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o aros yn gysylltiedig a dathlu ein cymuned ysgol gyda’n gilydd.

  • Cylchgrawn Tincer: Ar gael i’w brynu’n lleol, gyda erthygl fisol gan yr ysgol. Y TINCER – Trefeurig
  • Facebook: @ysgolpenllwyn
  • Instagram: @ysgol_penllwyn1

Edrychwn ymlaen at rannu ein straeon gyda chi!